Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu Pobl - 03.02.14

 

Presenoldeb

 

Joyce Watson AC (JW) – Aelod Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Keith Davies AC (KD) – Aelod Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nitesh Patel (NP) – Swyddog Cyfathrebu, Joyce Watson AC, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rhianon Chatterton (RC) – Pennaeth Lloches UKVI

Joanne Hopkins (JH) – Pennaeth Tîm y Swyddfa Gartref, Cymru

Stephen Chapman (SC) – Llywodraeth Cymru, Cydgysylltydd Atal Masnachu Pobl

Anne Hubbard (AH) – Partneriaeth Ymfudo Cymru

Robin Davies (RD) – IJM

Bailjit Gill (BG) – Cymru Ddiogelach Cyf

Jason Bushell (JB) – IJM, Cynrychiolydd yng Nghymru

Elisabeth Laird (EL) – Intern David Melding AC

Mwenya Chimba (MC) – BAWSO

Dan Boucher (DB) – CARE

Jacob Morris (JM) – Keith Davies AC, Intern

 

Agenda

 

1.       Ymddiheuriadau

 

·         Simon Thomas AC

·         Bernie Bowen-Thomson – Cymru Ddiogelach

 

2.       Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol

 

 

3.       Cyflwyniad gan Joyce Watson AC, Y Cadeirydd

 

Dechreuodd JW y cyfarfod drwy groesawu Jacob a oedd ar gyfnod o brofiad gwaith yn swyddfa Keith Davies AC.

 

Croesawodd Joyce RC a JH a nododd beth oedd eu swyddi.

 

4.       Eitem 4

 

Diolchodd JH i’r grŵp am ei gwahodd hi a RC i’r cyfarfod.  Dywedodd JH mai ei rôl hi yw darparu pwynt cyswllt strategol rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid yng Nghymru ar unrhyw faterion yn ymwneud â’r Swyddfa Gartref, sy’n cynnwys Masnachu. Nododd RC mai hi oedd Pennaeth y Tîm Lloches yn Nhîm UK Visas and Immigration, yn rheoli oddeutu 40 aelod o staff sy’n gyfrifol am gyfweld Ceiswyr Lloches a phenderfynu ar achosion a hefyd rheoli’r tîm Masnachu.

 

Nododd JH fod Masnachu yn flaenoriaeth uchel i’r Swyddfa Gartref. Mae gan y Swyddfa Gartref friff Gweinidogol rhyngadrannol i edrych ar yr holl faterion yn ymwneud â masnachu.  Cafwyd cyfnod prysur y llynedd, gyda sefydlu’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, sef prif elfen Cyfraith a Gorfodaeth gweithgarwch yn ymwneud â masnachu. Cyhoeddwyd y Strategaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol y llynedd hefyd a thua diwedd y flwyddyn cyhoeddwyd y Bil Caethwasiaeth Fodern drafft .

 

Eglurodd JH y broses o graffu ar y Bil Caethwasiaeth Fodern sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd ynghyd â rhannau o’r Bil drafft. Cafodd Uned Caethwasiaeth Fodern ei sefydlu yn y Swyddfa Gartref i drafod yr holl faterion cysylltiedig.

 

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gofyn i Anthony Steen o’r Human Trafficking Foundation adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau o ymweliadau rhyngwladol yn ymwneud â Masnachu Pobl a’r ffordd y gall y Swyddfa Gartref weithio’n amlochrog i fynd i’r afael â Chaethwasiaeth Fodern. Cynhelir adolygiad hefyd o’r system atgyfeirio genedlaethol (NRM) a’r ffordd orau i gefnogi dioddefwyr a sicrhau bod y system yn gweithio mor effeithiol â phosibl.

 

Mae’r Strategaeth Troseddau Cyfundrefnol hefyd yn gobeithio mynd ymhellach drwy gysylltu â gweithwyr yn y sector preifat i weld eu cadwyn o gyflenwyr a’r hyn sy’n digwydd pan fyddant yn cyflogi pobl/ cael nwyddau o dramor.

 

Bydd Cynllun Gweithredu Strategol newydd yn y Gwanwyn hefyd, a fydd yn ceisio dod â’r holl elfennau hyn ynghyd fel strategaeth ystyrlon ar gyfer y dyfodol.

 

Cafwyd 34 atgyfeiriad yn ystod 2012/2013, cynnydd o 25% mewn atgyfeiriadau ers y flwyddyn flaenorol.

 

Mae’r achos diweddar yng Ngwent yn tynnu sylw at y problemau sy’n parhau i fodoli mewn cymdeithas ac yn yr oes fodern.

 

Dywedodd RC fod ei hadran hi yn edrych ar sefyllfaoedd mwy lleol. RC hefyd yw’r Arweinydd Diogelu yn UKBA, ochr yn ochr â Lara Rodrigues. Mae dau weithiwr achos HEO penodedig sy’n edrych ar sail resymol ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn ag achosion o fasnachu; maent yn arbenigwyr yn eu maes. Mae pob gweithiwr achos yn cael hyfforddiant trylwyr er mwyn adnabod arwyddion o ddioddefwyr masnachu. Oherwydd yr hyfforddiant hwn, mae 64% o’r atgyfeiriadau at yr NRM gan yr UKBA. Mae gallu gweithiwr achos i adnabod arwyddion cynnil o fasnachu bellach wedi gwella’n sylweddol.

 

Dim ond yn nifer y rheini sy’n cael eu masnachu neu sy’n cael eu hadnabod fel dioddefwyr y mae’r UKBA yn gweld cynnydd.

 

Gofynnodd AH gwestiwn ynglŷn â’r syniad o gynnal cyfweliadau Lloches a Masnachu ar wahân a’u cynnal y tu allan i’r Swyddfa Gartref. Gofynnodd a oedd hwn yn rhywbeth yr oedd y Swyddfa Gartref wedi ystyried ei gyflwyno.

 

Dywedodd RC mai un o’r pethau y mae’r tîm yn ei wneud, os oes penderfyniad negyddol yn cael ei wneud ynglŷn â Masnachu neu Loches, yw cael gwahanol bobl yn ymdrin â hwy. Mae nifer o fanteision o gynnal cyfweliad yn yr un lle. Mae’n golygu nad oes ond yn rhaid i’r dioddefwr gael un cyfweliad.

 

Dywedodd JH fod y Swyddfa Gartref yn agored ynglŷn ag edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael er mwyn gwneud profiad dioddefwyr posibl yn haws ac i gydbwyso’r manteision a’r anfanteision er mwyn dod i benderfyniad.

 

Gofynnodd MC a fydd yr adolygiad o’r NRM yn cael ei wneud yn fewnol neu’n allanol.

 

Dywedodd JH na chafodd manylion yr adolygiad eu cwblhau ac y byddai MC yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wedi iddynt ddod i benderfyniad.

 

Dywedodd SC ei fod yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ar hyn a bod nifer o bryderon wedi’u codi.

 

Gofynnodd MC a fydd y canlyniadau ar gael i’r cyhoedd eu gweld.

 

Dywedodd JH ei bod yn sicr y byddant ar gael i’r cyhoedd eu gweld ond mai’r cam cyntaf fydd cwblhau’r cylch gorchwyl.

 

Gofynnodd JW pwy fyddai’n penderfynu ar y cylch gorchwyl.

 

Dywedodd JH ei fod yn ymrwymiad Gweinidogol ar hyn o bryd ac nad oedd ganddi ragor o wybodaeth ar y pryd ond cyn gynted ag y byddant yn gwybod mwy byddant yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Byddai SC yn rhan o’r trafodaethau drwy gydol yr amser.

 

Siaradodd DB am y peilot ar gyfer Eiriolwyr Masnachu yn Swydd Rhydychen a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Gofynnodd DB a fyddai cyllid canlyniadol Barnett ar gael i Gymru ar gyfer swyddi tebyg.

 

Dywedodd JH na allai roi ateb ar y pryd.

 

Gofynnodd BG a fydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y Cynllun Gweithredu yn y Gwanwyn cyn i’r cynllun gael ei gwblhau a gyda sefydliadau yng Nghymru.

 

Dywedodd JH y bydd lefel o ymgynghori â phartneriaid drwy Gymru gyfan. Bydd yn rhaid gorffen edrych ar y ffordd y caiff hyn ei reoli a’i ystyried.  Dywedodd JH ei bod yn hanfodol fod partneriaid yn gallu cyfleu eu neges i randdeiliaid allweddol drwy’r dull a sefydlwyd i gasglu’r farn honno.

 

Gofynnodd JB a oedd unrhyw adferiad yn digwydd drwy’r Ddeddf Enillion Troseddau.

 

Dywedodd JH fod adferiad yn dibynnu’n fawr ar yr Heddlu ac eraill i ddefnyddio’r Ddeddf a deall beth yw potensial y Ddeddf. Nid yw asiantaethau gorfodi’r gyfraith wedi’i defnyddio’n aml a dylid ei defnyddio’n amlach yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd SC na chymerwyd unrhyw arian gan neb hyd yma. Mae trafodaethau wedi digwydd gyda phedwar llu Cymru ac mae’r achos diweddar yng Nghasnewydd ynghyd â’r gollfarn wedi denu cais Ennill Trosedd.

 

Siaradodd JW am annigonolrwydd y ddedfryd (2 flynedd a 7 mis) yn yr achos yng Nghasnewydd. Dywedodd JW ei fod yn anfon neges glir na fydd troseddwyr yn cael dedfryd gosbedigol, a’r pryder ynglŷn â pha mor drugarog yw dedfrydau. Mae hon yn broblem wirioneddol. Cydnabu’r cynnig i ymestyn y ddedfryd am Fasnachu yn y Bil Caethwasiaeth Fodern.

 

Dywedodd JB efallai bod angen hyfforddiant ar y farnwriaeth.

 

Mynegodd DB bryder nad oedd cynrychiolaeth o Gymru ar gyfer y Bil Caethwasiaeth Fodern Drafft nac unrhyw un â chysylltiad â Chymru.

 

Dywedodd JH fod y Swyddfa Gartref yn gweithio gyda chydweithwyr yng Nghymru ar gyfer y Bil Caethwasiaeth Fodern Drafft ac mai rôl y Comisiynydd sydd o’r diddordeb mwyaf a dyna y siaredir amdano fwyaf ar hyn o bryd. Er enghraifft, y baich ar awdurdodau lleol a beth fydd y rôl yn ei olygu.

 

Gofynnodd JB i ba raddau y mae’r DU yn gofyn i arbenigwyr o wledydd eraill a rhanddeiliaid / sefydliadau am gymorth wrth ymdrin â Masnachu Pobl.

 

Dywedodd JH fod gofyniad yn y Strategaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol i weithio’n rhyngwladol.  Mae pwyslais cryf yn y strategaeth ar ddysgu beth sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio a’r ymatebion rhyngwladol.

 

Mynegodd JW bryder am broblemau’n ymwneud â masnachu mewnol a pheidio â cholli golwg ar yr agwedd hon wrth drafod yr holl faterion yn ymwneud â Masnachu Pobl. Gofynnodd JW hefyd am y broses o gasglu gwybodaeth ar gyfer adnabod dioddefwyr masnachu yng Nghymru ac yn y DU yn ei gyfanrwydd. Amlinellodd JW fod y Swyddfa Gartref wedi cael ei beirniadu am fod ag agwedd gwrth-fewnfudo galed wrth ymdrin â dioddefwyr Masnachu Pobl.

 

Dywedodd JH fod gan rannau o’r sefydliad fel UKBI bellach stori gadarnhaol am hyn, a’u bod yn cyfeirio mwy na 50% o’r hyn y gall UKBI ei gyfeirio drwy’r Swyddfa Gartref fel ymatebwyr cyntaf. Mae llawer mwy o waith i’w wneud fel deall y darlun llawn a’r pryderon unigol (e.e. rhwystrau ieithyddol dioddefwyr masnachu posibl a deall arwyddion o fasnachu). Mae’r broses o gasglu gwybodaeth ar gyfer Lloches yn gryf ond gellir gwneud mwy i sicrhau bod y broses o gasglu gwybodaeth ar gyfer achosion o Fasnachu Pobl hefyd yn gryf.

 

Pwysleisiodd RC yr angen am ragor o hyfforddiant a bod 64% o atgyfeiriadau bellach yn dod gan UKBI. Bydd hyfforddiant yn sicrhau bod arwyddion o Fasnachu Pobl yn cael eu hadnabod yn gynt y tro cyntaf y byddant yn dod i’r amlwg.

 

Gofynnodd JW i RC a JH beth oedd barn y llywodraeth am gynnig Gwarcheidwaid i blant sy’n agored i niwed.

 

Derbyniodd JH mai plant yw’r grŵp mwyaf agored i niwed ac o safbwynt Cymru maent am edrych ar unrhyw beth y gallant ei wneud i sicrhau nad yw’r grŵp yn cael ei fethu.  Ar lefel y DU, mae’r llywodraeth yn ymwybodol o’r galwadau niferus sy’n gofyn am ragor o gymorth posibl i blant. Gall rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau fel y GIG a darparwyr addysg sicrhau bod gan UKBI ddarlun llawnach a mwy cywir o nifer yr achosion a phob agwedd ar y maes hwn.

 

Siaradodd JW am y pryder a godwyd yn adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol yn San Steffan am yr agwedd galed sy’n cael ei chymryd tuag at fewnfudo a gofynnwyd a oedd hyn yn parhau i fodoli.

 

Dywedodd JH fod yr agwedd hon wedi newid bellach a bod Masnachu Pobl yn brif flaenoriaeth, gyda chynnydd mewn hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth a darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen.

 

Mynegodd JW bryder yn yr adroddiad Trawsbleidiol nad yw caethwasiaeth fodern na llafur gorfodol wedi’u cynnwys yn rheolau’r Swyddfa Gartref ar gyfer cyfrif troseddau ac mai dim ond camfanteisio rhywiol sydd wedi’i gynnwys yn y rheolau hyn.  Nid oedd JH yn ymwybodol o hynny a dywedodd os nad oeddent yn y rheolau cyfrif y byddai’n rhaid dilyn cyfnod adolygu i ymchwilio i hyn.

 

Cadarnhaodd SC nad ydynt yn y rheolau cyfrif ac mai’r NRM yw’r set ddata mwyaf cywir sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae ffigurau’r NRM wedi cynyddu 47% ers y rhai blaenorol ac roedd mwyafrif y cyfeiriadau drwy BAWSO.

 

Dywedodd DB fod y Bil Caethwasiaeth Fodern yn Fil Cyfiawnder Troseddol mewn llawer ystyr ac nad yw’n canolbwyntio ar y dioddefwr, ar wahân i roi dedfrydau caled i droseddwyr. Dylai cael darpariaeth ar gyfer Gwarcheidwaid Masnachu mewn Plant ac ystyried y prosiectau peilot sy’n cael eu rhedeg fynd y tu hwnt i’r canllawiau arfer gorau sy’n cael eu llunio ar gyfer Awdurdodau Lleol, ac i system Warcheidiaeth lawn sy’n cael ei chydnabod â statws.

 

Dywedodd SC mai dim ond tri Awdurdod Lleol sydd wedi cyfeirio achosion at yr NRM.

 

Mynegodd DB bryder am blant sydd wedi mynd ar goll o ofal ar ôl cael eu hadnabod fel dioddefwyr masnachu.

 

Dywedodd JH fod y Swyddfa Gartref wedi cynnal cyfarfod yn ddiweddar i ganfod nifer y bobl sy’n ceisio Lloches, ac mae’r nifer wedi codi.

 

Cyfeiriodd JW at sïon am gyflogwyr mawr iawn yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn cymryd mantais o ddioddefwyr masnachu posibl.

 

Dywedodd RC y bydd ei thîm hi yn ymchwilio ymhellach i achosion o’r fath os rhoddir gwybod i’w hadran amdanynt.

 

Dywedodd JH fod gwaith i’w wneud o hyd gan ei sefydliad hi, yr Heddlu ac asiantaethau gorfodi eraill o ran rhoi gwybod i aelodau’r cyhoedd am y gwahanol ddulliau o roi gwybod i awdurdodau am achosion posibl o Fasnachu Pobl.

 

Dywedodd SC y bydd y Gangmasters Licencing Authority yn cynnal ymgyrch fawr i fynd i’r afael ag arferion amaethyddol yng Nghymru. Mae’r Grŵp Arweinyddiaeth wedi comisiynu DVD a hysbysebion cenedlaethol ar fysiau ac ar y teledu ynglŷn â bob math o Gaethwasiaeth Fodern.

 

Dywedodd JB ei fod wedi clywed bod Masnachu’n rhemp mewn rhai meysydd awyr allweddol oherwydd diffyg gwyliadwriaeth. Cyfeiriwyd at Gatwick a Chaerdydd.

 

Dywedodd SC fod Llywodraeth Cymru am wneud Cymru’n gwbl wrthwynebus i fasnachu. Adroddiad Blynyddol wedi’i gynhyrchu. Mae’r wefan yn cynnwys yr holl wybodaeth am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn â masnachu. Mae cynnwys BAWSO fel ymatebydd cyntaf wedi achosi i nifer y cyfeiriadau gynyddu. Mae’r hyfforddiant yn mynd yn dda. Mae rhannu gwybodaeth ar draws asiantaethau hefyd yn gweithio’n dda. Mae copïau caled o’r ddisg DVD ar gael gan SC os gwneir cais. Mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu perfformiad o Theatre vs Oppression i Aelodau’r Cynulliad a chaiff DVD o’r perfformiad hwnnw ei gynhyrchu. Rhoddodd SC enghraifft o achos diweddar o gefnogi dioddefwr masnachu. Roedd ffigurau’r NRM ar gyfer 2013 bellach wedi’u rhyddhau.

 

Amlinellodd BG yr agwedd wrth ymdrin â’r achos y cyfeiriwyd ato gan SC a’i fod yn dangos sut y gall agwedd amlasianthaethol weithio. Roedd Cymru Ddiogelach yn cwblhau protocolau rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau allweddol ac mae’n rhagweld y caiff hyn ei gwblhau mewn ychydig ddyddiau.

 

Gofynnodd JW sut oedd SC yn teimlo ynglŷn ag ymgysylltiad Comisiynwyr yr Heddlu â’r agenda hon. Dywedodd SC ei fod wedi gweld Comisiynwyr yr Heddlu a’i fod wedi rhoi gwybod iddynt am yr holl waith ac ymchwil yng Nghymru ac wedi’u hannog i ymgysylltu â’r agenda hon.

 

Dywedodd JW ei bod yn parhau i fod yn bryderus ynglŷn â Phlant sydd ar Goll o Ofal. Yn dilyn adroddiad JW cafwyd adroddiad o’r Wales on Sunday. Flwyddyn wedi’r adroddiad, roedd yr un pryderon yn codi ag a gododd yn yr adroddiad gan JW. Mae angen gwneud rhagor ynglŷn â’r mater hwn er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o Awdurdodau Lleol nad ydynt yn cyflawni’u cyfrifoldebau. Dywedodd JW ei bod yn werth gweld Theatre vs Oppression. Mae’n ddrama wych.

 

Cytunwyd y dylai’r mater o Warcheidiaeth fod yn eitem ar agenda nesaf y grŵp trawsbleidiol ac y dylid gofyn i Gomisiynydd Plant Cymru fod yn bresennol y penwythnos nesaf.

 

Gofynnodd AH a oedd y system Warcheidiaid ar waith yn yr Alban.

 

Cadarnhaodd DB fod model Gwarcheidiaid ar waith yn yr Alban.

 

Cyfeiriodd JW at y ffaith iddi gael cais i ymweld â Guernsey yn fuan i fod yn Siaradwr Gwadd.